09/11/2026

Sefydliad Cymunedol Cymru - Comisiwn Creadigol wedi’I ysbrydoli gan haelioni a’I effaith ar gymunedau (4.12.26)

Fel rhan o lansiad ein brand newydd, rydym yn gwahodd artist neu ddarlunydd o Gymru i greu gwaith celf digidol gwreiddiol wedi’i ysbrydoli gan y themâu sydd wrth wraidd ein sefydliad a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Ym mis Hydref 2026, gwnaethom gyflwyno stori gliriach am bwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud a’r rôl rydym yn ei chwarae yng Nghymru. Er bod ein hunaniaeth weledol wedi esblygu, mae ein pwrpas yn parhau: helpu pobl, teuluoedd, busnesau a sefydliadau i fuddsoddi yn y lleoedd a’r achosion sy’n bwysig iddynt, creu daioni drwy haelioni ledled Cymru.

I ddathlu ein brand newydd, rydym yn falch o gyhoeddi Comisiwn Creadigol gwerth £500, gan roi cyfle i bobl greadigol yng Nghymru ddehongli’r syniadau sydd wrth galon Sefydliad Cymunedol Cymru.

Rhaid cyflwyno’r gwaith celf terfynol y cytunwyd arno erbyn dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026 er mwyn rhoi digon o amser ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu.

 

Am wybodaeth pellach: https://sefydliadcymunedolcymru.org.uk/newyddion/cyfle-comisiwn-creadigol-wedii-ysbrydoli-gan-haelioni-ai-effaith-ar-gymunedau/