10/11/2026

Hyfforddiant Diogelu. Ionawr i Ebrill 27

 


Ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion? Neu a oes gennych gyfrifoldebau diogelu o fewn eich sefydliad?

Mae Mantell Gwynedd yn cynnig cyfres o sesiynau Hyfforddiant Diogelu Grŵp B a Grŵp C yn ystod 2027, ar-lein ac wyneb yn wyneb.

✅ Grŵp B - Ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ac sydd angen adnabod ac ymateb i bryderon diogelu. (Rhaid bod wedi cwblhau Hyfforddiant Grŵp A yn flaenorol.)

✅ Grŵp C - Ar gyfer rheolwyr, arweinwyr diogelu dynodedig ac unigolion sydd â chyfrifoldebau diogelu penodol. (Rhaid bod wedi cwblhau Hyfforddiant Grŵp B yn ddiweddar.)

📅 Sesiynau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg

💻Ar-lein drwy Zoom ac wyneb yn wyneb ym Mhorthmadog

👉 Cofrestrwch eich lle drwy Eventbrite a dewiswch y dyddiad a'r iaith sy'n addas i chi: https://www.eventbrite.co.uk/o/mantell-gwynedd-26261354621?aff=ebdsshcopyurl

⚠️ Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn gynnar i osgoi siom.