11 – 3 Neuadd y Farchnad, Caernarfon LL55 1RR
Estynnwn wahoddiad cynnes i chi fynychu digwyddiad blynyddol
IECHYD A LLESIANT A GOFAL gan Mantell Gwynedd ar 24.06.26 ar gychwyn
Wythnos Lles Y Byd (24 – 30ain Mehefin 2026 ). Cyfle arbennig i bawb sy’n
gweithio yn neu gyda’r Trydydd Sector yng Ngwynedd i gynnal stondin wybodaeth
neu sesiwn blasu, i rwydweithio, ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd i godi
ymwybyddiaeth o sut i wella Iechyd a Llesiant yn gyffredinol. Mae’n
ddigwyddiad rhad ac am ddim i bawb a bydd deunydd gwybodaeth a chyfathrebu yn y
Gymraeg a Saesneg.
Nifer cyfyngedig o stondinau... felly cyntaf i’r felin. Ymunwch gyda ni!
Cofrestrwch am stondin, neu safle i gynnal sesiwn blasu, yn gyntaf,
trwy'r QR ar y poster neu fan yma os gwelwch yn dda:
https://www.eventbrite.co.uk/e/digwyddiad-iechyd-dar-ha-2026-tickets-1990094170235?aff=oddtdtcreator
Gofynnwn i chi wedyn ebostio sioned.roberts@mantellgwynedd.com gydag unrhyw ymholiadau
ac i roi manylion i ni am eich cais, sawl person fydd ar y stondin ayyb -
wedyn byddwch yn derbyn cadarnhâd bod eich cais am stondin/safle yn
llwyddiannus.
