22/04/2026

Enwebiadau ar Agor ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Gwynedd! (dyddiad cau 26/05/26)

 


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod enwebiadau bellach AR AGOR ar gyfer Gwobrau Gwirfoddolwyr Gwynedd 2026 – ein dathliad blynyddol o'r unigolion anhygoel sy'n rhoi o'u hamser, eu hegni a'u hangerdd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr ym mis Mehefin, byddwn yn dychwelyd i ysblennydd Portmeirion ar ddydd Mawrth, 2 Mehefin 2026 ar gyfer y digwyddiad ble fyddwn yn cyflwyno tystysgrifau i wirfoddolwyr teilwng.


 

Dyma’ch cyfle i dynnu sylw at rai o unigolion arbennig o fewn ein cymunedau i roi’r gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu!

 

Mae llefydd ar gyfer y digwyddiad yn gyfyngedig ac ar sail y cyntaf i’r felin, felly peidiwch ag oedi. anfonwch eich enwebiadau cyn gynted â phosib. Bydd y person a enwebir a’r sawl sy’n cyflwyno’r enwebiad yn cael gwahoddiad i’r digwyddiad.

 

Dyddiad cau enwebiadau: 26 Mai 2026
Cliciwch yma i gyflwyno eich enwebiad: 
Ffurflen Enwebu   Gwobrau Gwirfoddoli GWYNEDD Volunteer Awards 2026 Nomination Form – Fill in form