Bob tair blynedd mae Llywodraeth Cymru yn adrodd ar y cynnydd a wnaed o ran Strategaeth Tlodi Plant Cymru. Disgwylir yr adroddiad nesaf ym mis Rhagfyr 2025. Fel rhan o'r adroddiad cynnydd, rydym wedi ymrwymo i gynnwys tystiolaeth o brofiad bywyd i helpu i ddangos sut rydym yn cyflawni yn erbyn nodau ac amcanion y strategaeth.
Bydd yr adroddiad cynnydd hefyd yn cynnwys:
- Fframwaith
monitro i
adrodd ar ddata cadarn ar lefel poblogaeth a gesglir yn rheolaidd ar ystod
o ddangosyddion tlodi plant i roi darlun o effaith a thrywydd canlyniadau
i blant a phobl ifanc.
- Adroddiad
cynnydd polisi i
roi diweddariad manwl ar effaith polisïau a chamau gweithredu penodol ac
allbynnau cysylltiedig, wrth gyflawni cynnydd yn erbyn pum amcan, pum
blaenoriaeth ac 19 ymrwymiad y strategaeth.
Cofnodi Profiadau Bywyd
Mae tystiolaeth gan bobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi yn darparu gwybodaeth bwysig am sut mae polisïau a chamau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar lefel aelwydydd ac ar lefel gymunedol.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gofyn tri chwestiwn allweddol i bobl sydd â phrofiad bywyd, a fydd yn sefydlu a fu unrhyw newidiadau yn ystod y tair blynedd diwethaf sydd wedi effeithio ar bobl, pa rwystrau y mae pobl yn eu hwynebu a beth y gellid ei wneud yn y dyfodol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Ymgysylltu
Rydym yn gofyn am eich help i gasglu'r wybodaeth hon. Rydym yn cynnig cyllid grant tymor byr i hwyluso cyfleoedd i gael trafodaethau gyda phlant, pobl ifanc, rhieni, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod eu mewnwelediad, eu barn a'u pryderon yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad cynnydd sydd i'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025.
Mae cyllid o hyd at £4995 fesul sefydliad ar gael i'r trydydd sector, neu i sefydliadau neu grwpiau cymunedol sy'n arbenigo mewn cefnogi, ymgysylltu neu weithio gyda phobl sydd â nodweddion gwarchodedig a/neu blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dlodi. Ymhlith elfennau eraill, gall nodweddion gwarchodedig gynnwys ethnigrwydd, rhywedd, anabledd, rhywioldeb.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cysylltwch â ni yn: TrechuTlodiAChefnogiTeuluoedd@llyw.cymru am ffurflen gais, gan nodi a fyddwch yn targedu'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a / neu blant a phobl ifanc yn benodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 11 Gorffennaf. Disgwylir i'r prosiectau ddechrau yn syth ar ôl cadarnhau'r cyllid a rhaid derbyn yr holl ymatebion yn Llywodraeth Cymru erbyn 22 Awst.